Croeso i wefan Cyngor Cymuned Llanfihangel Aberbythych
Rydym ar hyn o bryd yn diweddaru'r wefan ag yn ei gwenud yn ddwyiethog.
Ymddiheiriadau am unrhyw anghyfleuser.
Mae Cyngor Cymuned Llanfihangel Aberbythych yn gymuned wledig, yn seiliedig yn wreiddiol ar amaethyddiaeth â phoblogaeth o 1,833 sy'n cynnwys ardaloedd Carmel, Gelli Aur, Milo, Pantyllyn, Maesybont a Chastell y Rhingyll. Mae'r ardal yn gyfoethog o ran hanes, chwedlau a chysylltiadau â diwylliant Cymru. Ceir neuaddau pentref yng Ngelli Aur (yr hen ysgol), Carmel a Chastell y Rhingyll.
Mae'r A476 yn arwain trwy'r ardal er mwyn cysylltu Canolbarth Cymru a Thraffordd yr M4, ceir nifer o ffyrdd B hefyd, sy'n cysylltu'r ardal â chanolfannau poblogaeth eraill megis Caerfyrddin, ceir ynddi hefyd rwydwaith o ffyrdd dosbarth C.
Mae rhan ogleddol y plwyf yn ffurfio rhan o ardal dalgylch afon Tywi, ac mae'r rhan ddeheuol yn cael ei ffurfio gan ddalgylch afon Marlais, sy'n dechrau ger Rhydgoch ac yn gadael y plwyf ger Derwydd, er mwyn llifo i'r afon Llwchwr ger Rhydaman. Prif isafon y Marlais yw Nant Pysgotwr, sy'n dechrau ger Bryndu a gellir gweld olion argae yno hyd heddiw, roedd hwn yn gronfa ddwr ar gyfer yr hen felin (Melin Cae Bwch), ger Abercamlais a'r Felin Newydd, a ddaeth i ben ar ddechrau'r 1990au. Roedd hefyd yn cyflenwi pysgod ac adar dwr ar gyfer y teulu Vaughan ym mhlasty Gelli Aur, y teulu oedd prif dirfeddianwyr y plwyf ar un adeg.
Yr unig ysgol gynradd sydd ar ôl yn y plwyf yw Maesybont, mae'r ddwy arall yng Ngelli Aur a Nantygroes (Milo) wedi cau, felly mae plant yr ardal yn mynychu ysgolion cynradd Maesybont, Ffairfach, Llandeilo, Llandybie a Chwrt-henri, darperir addysg uwchradd yn Ysgol Bro Dinefwr (Tregib) a Maes y Gwendraeth (Maes yr Yrfa).
Newyddion Diweddaraf |
Atgoffir trigolion Llanfihangel Aberbythych bod newidiadau i'r casgliadau sbwriel ac ailgylchu dros benwythnos gwyl y banc. Mae'r casgliadau ddiwrnod yn hwyrach nag arfer yn ystod y gwyliau hyn. |
Cliciwch ar y lluniau er mwyn cael llun mwy.
|
|
| |
Eglwys San Mihangel Gellir Aur 2 | Eglwys San Mihangel Gellir Aur | Cairn, Carmel |